GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG

 

 

015 - Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) 2022 [Saesneg yn unig]

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 20 Hydref 2022

Sifftio

Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU?

Amherthnasol

Y weithdrefn:

Cadarnhaol drafft

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Amherthnasol

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Amherthnasol

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

Amherthnasol

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Amherthnasol

Y weithdrefn

Cadarnhaol drafft

Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Y cefndir

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o dan adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi.

 

Crynodeb

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro diffygion yng nghyfraith yr UE a ddargedwir sy'n ymwneud â mewnforio anifeiliaid a chynhyrchion perthynol. Mae'r Rheoliadau yn trosglwyddo swyddogaethau cyrff yr UE i'r "awdurdod priodol" fel bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn gweithredu'n effeithiol mewn cyfraith ddomestig.

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhoi swyddogaethau (gan gynnwys pwerau gwneud rheoliadau) i Weinidogion y DU fel yr awdurdod priodol. Drwy roi'r pwerau hynny i Weinidogion y DU fel yr awdurdod priodol, bydd Gweinidogion y DU (ymhlith pethau eraill) yn gallu arfer y pwerau mewn meysydd datganoledig yng Nghymru, ond dim ond gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.

 

Datganiad gan Lywodraeth Cymru

 

Nid yw’r Rheoliadau hyn yn rhoi pwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru. Fodd bynnag, mae datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar 21 Hydref 2022 yn dweud:

 

“Yn fuan bydd Gweinidogion Cymru yn gwneud rheoliadau cyfatebol, a fydd yn creu nifer o bwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru”.

 

Felly, pan fydd y pwerau gwneud rheoliadau hyn yn cael eu defnyddio mewn meysydd datganoledig yng Nghymru, bydd dewis o ran pwy sy'n gallu eu harfer, h.y. gall naill ai fod yn:

 

1.        Weinidogion Cymru yn gweithredu ar eu pen eu hunain, neu

 

2.      Weinidogion y DU yn gweithredu ar ran Cymru, gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru.[1]

 

Mewn llythyr at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad dyddiedig 21 Hydref, mae Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd yn nodi’r cefndir a ganlyn ynghylch y dull cyffredin o weithredu ledled Prydain Fawr yn y maes hwn:

 

“Mae swyddogaethau tebyg yng nghyd-destun Iechyd a Lles Anifeiliaid wedi'u cymeradwyo'n flaenorol ar y sail bod buddiant cydfuddiannol i bob gweinyddiaeth wrth gymhwyso mesurau cydlynol i atal clefydau ac mae angen i'r swyddogaethau yn y Rheoliadau drafft weithio ar gyfer Prydain Fawr gyfan. Ar ben hynny, maent yn cael eu harfer yng nghyd-destun Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyffredin y DU gyda phrosesau llywodraethu a ddiffinnir yn glir ar gyfer ymgysylltu traws-lywodraethol. Bydd unrhyw newidiadau polisi neu ddefnyddio'r pwerau yn cael eu trafod yn y Grŵp Polisi Clefydau Anifeiliaid, sef corff llywodraethu'r Fframwaith Cyffredin hwn, a lle caiff penderfyniadau polisi eu gwneud drwy gonsensws.

 

Mae'n bwysig nodi bod gallu'r Ysgrifennydd Gwladol i arfer y swyddogaeth hon yn dibynnu ar gydsyniad Gweinidogion Cymru. Rydym yn rhagweld mai dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y byddai hyn yn digwydd. Mae'r swyddogaeth hon felly'n briodol ac yn adlewyrchu'r hyn sydd eisoes yn digwydd mewn deddfwriaeth a phrosesau gweinyddol eraill yn y maes polisi hwn.

 

Hoffwn sicrhau'r pwyllgor hwn mai polisi arferol Llywodraeth Cymru yw deddfu dros Gymru ar faterion datganoledig. Ond mewn rhai amgylchiadau mae manteision i gydweithio gyda Llywodraeth y DU pan fo sail resymegol glir dros wneud hynny. Ar yr achlysur hwn, felly, rwy'n rhoi fy nghydsyniad i'r Rheoliadau hyn er mwyn sicrhau effeithlonrwydd a hwylustod wrth newid polisi yn y dyfodol a chadw at rwymedigaethau rhyngwladol, a sicrhau cydgysylltiad a chysondeb traws-lywodraethol.

 

Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.

 

Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol y Senedd o'r farn bod unrhyw faterion arwyddocaol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.

 

 



[1] Mae’r un broses gydsynio yn berthnasol i Weinidogion yr Alban a’r Alban.